|
Betws-y-Coed ydi prif bentref Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Parc yn fwy na 800 milltir sgwâr o harddwch naturiol arbennig. Mae yma fynyddoedd geirwon, dyffrynnoedd dirgel, afonydd gwyllt, llynnoedd tawel a choedwigoedd cyfrin hudolus. “Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd”. Wrth fynd am dro drwy Eryri fe welwch chi ryfeddodau di-ri. Mae ei chreigiau Cambriaidd yn rhai o greigiau hynaf y byd. Mae ei heconomi’n seiliedig ar draddodiad amaethyddol sy’n ymestyn yn ôl i’r cyfnod cynhanesyddol. Yr un ydi hanes ei hiaith a’i diwylliant; mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, a cherdd dant a cherdd dafod yn arferion byw yma. Mae’r mynyddoedd yn drwch o chwedlau a thraddodiadau ac yn frith o olion yr Hen Gymry - o gylchoedd meini Neolithig, siambrau Oes Efydd, amddiffynfeydd yr hen Geltiaid i dyrrau a chaerau ein Tywysogion. Dyma i chi un o ardaloedd hynotaf Ynys Prydain. Rhwng dyffrynnoedd tawel a phriffyrdd prysur y Parc Cenedlaethol mae yna erwau o weundir a thir mynydd ac unig ôl sylweddol llaw y dyn cyfoes ydi pentrefi prydferth Betws-y-Coed a Beddgelert. Ac yn ganolbwynt i’r cyfan, wrth gwrs, mae’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr, y mae ei gopa’n 3560 o droedfeddi uwchben lefel y môr. Mae 13 o gopaon eraill Eryri yn fwy na 3,000 troedfedd uwchben lefel y môr sy’n gwneud Eryri’n lle delfrydol i unrhyw un sy’n mwynhau’r awyr agored. Cerddwch, gyrrwch, neu ewch ar un o’r trenau bach i weld mor arbennig ydi’r tirlun o’ch cwmpas. Os nad ydi hynny at eich dant beth am farchogaeth – mae yma nifer o ganolfannau merlota. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd yn darparu nifer fawr o lwybrau cerdded, meysydd parcio a mannau picnic, ond hefyd yn cymell pobl i ystyried Rheolau’r Ffordd Fawr a’r Côd Cefn Gwlad.
Croeso i
Gwelwch luniau Eryri gan Dave Newbould |
|||
Bwyty Llugwy
Stablau
Bar Gril
Gwesty’r Y Dderwen Frenhinol / The Royal Oak Hotel
Gwyliau yn Eryri
Ystafellau Gwely